Buddugol yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am y trydydd tro ar ddeg


Gwahoddiad i ymuno â Côr Hen Nodiant

Mae Côr Hen Nodiant yn awyddus i ddenu aelodau newydd sydd yn 60 oed neu drosodd adeg yr Eisteddfod yn 2026. Ers ei sefydlu yn 2008 mae’r côr wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ennill y Gystadleuaeth i Gorau dros 60 oed ar 13 achlysur. Er mai cystadlu yw prif nod y côr mae hefyd yn gyfle i gymdeithasu a dod i gwrdd â phobl newydd.

Mae’n harweinydd, Catrin Williams, yn brofiadol iawn ac yn awyddus i roi cyfle i aelodau newydd ymgartrefu yn y côr ac i fwynhau’r profiad o ganu a dysgu darnau newydd.

Cynhelir yr ymarferion am 7.30yh ar nos Fercher yn festri Capel Salem, Treganna. Bydd y côr yn ail-ddechrau ymarfer ar 1af Hydref a bydd croeso i aelodau newydd, yn Soprano, Alto, Tenor neu Bas, ddod i‘r ymarferion ym mis Hydref.   

Mae gwybodaeth pellach ar wefan www.corhennodiant.cymru a gallwch gysylltu drwy ebostio corhennodiant@gmail.com.  


Côr Hen Nodiant

Côr o bobl hŷn ardal Caerdydd a ffurfiwyd yn 2008 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae’r côr wedi ennill y Gystadleuaeth Gorawl i Bensiynwyr yn 2010, 2011, 2012, 2013 a 2014 (o dan yr enw Côr y Mochyn Du) ac yn 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2022, 2023 a 2024.

Gallwch gysylltu â’r côr drwy ebost: corhennodiant@gmail.com

Arweinyddion:
Catrin Williams
Marian Evans

Cyfeilydd: Nia Edwards

Cyn-Arweinyddion:
Huw Foulkes
Sioned James 

Buddugol yn Eisteddfod Boduan 2023

Buddugol yn Eisteddfod Tregaron 2022


Eisteddfod Wrecsam 2025 – Pedwerydd


 

Cyhoeddi CD Hoff Emynau

Mae Côr Hen Nodiant wedi creu CD sy’n cynnwys 15 o emynau Cymraeg traddodiadol.

Yn ogystal â’r CD mae llyfryn yn cynnwys geiriau a thonau’r hoff emynau hyn ynghyd â nodiadau ar fywyd a gwaith y cyfansoddwyr a’r awduron. Prif awdur yr emynau yn y gyfrol hwn yw William Williams, Pantycelyn, ac mae’n deyrnged i’w gyfraniad aruthrol i fywyd ysbrydol a diwylliannol ein cenedl.

Mae Côr Hen Nodiant yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac eleni mae’n dathlu deng mlwyddiant ei sefydlu. O dan arweinyddiaeth Huw Foulkes mae’r côr yn ymarfer yng Nghapel Salem, Treganna, ac yno hefyd y recordiwyd yr emynau gyda’r Organydd Dafydd Wrenall.

Mae’r côr yn gwerthfawrogi gwaith Ted Clement-Evans sydd wedi ysbrydoli’r casgliad arbennig hwn. Mae’n cynnwys rhai o ffefrynnau’r genedl – Aberystwyth, Blaenwern a Builth – ond hefyd ambell i dôn anghyfarwydd megis Mawl Gan a Manley Park.